Eglwysbach

Cyngor Cymuned | Community Council

Mae'r  Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Sir Conwy yn 2019.  Mae hyn yn newyddion hynod o gyffroes i bawb ac yn gyfle i ni ddathlu ein hunaniaeth a'n traddodiadau yn un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop a hynny stepan ein drws.

 

Mae ein rhan ni fel pentrefwyr lleol i sicrhau fod yr wyl hon yn llwyddiant enfawr ac oherwydd hyn rydym wedi sefydlu Pwyllgor Apêl Eglwys Bach ac yn adrych ymlaen yn arw i gael cymaint o bobl ac sy'n bosib i fod yn rhan o'r bwrlwm.

 

Ein nôd fel cymuned yw casglu £10,500 ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol drwy gynnal gweithgareddau amrywiol.

 

Ein dymuniad mwyaf fel pwyllgor yw ein bod ni fel cymuned yn dod yngh?d, yn cydweithio ac yn mwynhau'r cyfnod o baratoi yng nghwmni ein gilydd.  Cyfle gwych yw hwn i gryfhau'r ymdeimlad o gymuned a sicrhau gwaddol yn dilyn yr Eisteddfod ei hun.

 

Digwyddiadau 

Pnawn Sul Mai 13eg. Taith gerdded yn yr ardal leol. Cyfarfod ger y faner am 2 gan gychwyn i fyny am Llety. Bydd y daith yn cymryd tua awr a hanner i'w chwblhau. Bydd toriad byr yn y canol felly dewch a phaned hefo chi! £5 y teulu neu £2 yr unigolyn.
 
Nos Wener, Mehefin 8 fed, Helfa Drysor mewn ceir. Cyfarfod ym maes parcio y ffwrnais am 6.  £5 y car. Trefnir bwyd i ddilyn.

Hawlfraint © 2014-2021
Cyngor Cymuned Eglwysbach