Eglwysbach

Cyngor Cymuned | Community Council

Eglwys Efengylaidd

Croeso i dudalen yr Eglwys Efengylaidd sy'n cyfarfod yn Eglwys Bach.

Rydym yn cyfarfod dwy waith pob Sul.

Cynhelir oedfa bore yn ystafell gefn Neuadd Aberconwy am 10 o'r gloch ac oedfa'r hwyr yn festri Capel Ebeneser am 5 o'r gloch.

Mae croeso cynnes i chi ymuno â ni.

Rydym yn cynnal cyfarfod gweddi neu astudiaeth feiblaidd bob nos Fercher.  Cyhoeddir y lleoliad yn ystod oedfaon y Sul.

Yn dilyn y cyfarwyddyd a gafwyd gan y Llywodraeth, byddwn yn hepgor cyfarfod ar y Sul ar hyn o bryd.

Daethpwyd i'r penderfyniad hefyd oherwydd cariad tuag at aelodau bregus eu hiechyd, ac er mwyn ceisio arafu ymlediad y feirws a lleihau y pwysau potensial ar ein Gwasanaeth Iechyd.

Byddwn yn rhoi gwybod ichi pan fyddwn yn ail ddechau'r oedfaon.

 

Gan nad ydym yn gallu cynnal oedfaon ar hyn o bryd byddwn yn ymuno â chapeli eraill ar y we i gyd addoli.  Beth am ymuno â ni? Cliciwch ar un o'r cysylltiasau isod.

 Capel y Ffynnon, Bangor  https://www.youtube.com/watch?v=s7nZvWVhf28

Eglwys Efengylaidd Aberystwyth https://www.youtube.com/watch?v=YRsDN9kLbkI

Hawlfraint © 2014-2021
Cyngor Cymuned Eglwysbach