Eglwysbach
Cyngor Cymuned | Community Council
Tair blynedd yn ôl, yn dilyn darganfod carpedi wedi eu rowlio i fyny ac offer amrywiol eraill wedi eu storio yn neuadd y pentref, a'r ymholiadau dilynol a gafwyd, adfywydd y Clwb Bowlio Carped. Ers hynny, mae'r gweithgaredd a'r brwdfrydedd wedi dod yn heintus.
O fis Medi hyd fis Mai, ar brynhawniau Mawrth beth bynnag fo'r tywydd, gallwch ddod o hyd i ni yn mwynhau gêm mewn awyrgylch gynnes, yn cael sgwrs - yn cynwys phaned o de neu goffi hanner amser. Felly, pam na ddewch i ymuno a ni. Nid yw profiad blaenorol yn angenrheidiol, bydd croeso cynnes i chi.
Neuadd Aberconwy, ar brynhawniau Mawrth o 1.00 p.m. Am fanylion pellach, cysylltwch â John Worsley ar (01492) 650687.
Llongyfarchiadau i Jean Coomber a enillodd Darian Trevor Crapper. Cyflwynwyd y darian iddi gan Deryl Jones, merch Trevor.